Croeso i Adran Y Gymraeg / Welcome to The Welsh Department
Ein staff / Our staff
Mrs M Tomos Jones – Rheolwr Dysgu / Learning Manager
Mrs T Williams – Arweinydd Dysgu Cynorthwyol / Assistant Learning Manager
Miss E Whitehead – Athrawes Gymraeg / Welsh Teacher
Mrs L Rowlands – Athrawes Gymraeg / Welsh Teacher
Miss L Jones – Athrawes Ymarfer Corff a Chymraeg / Teacher of PE and Welsh
Ffilm Cymraeg Croeso i Ysgol Rhosnesni produced by our fantastic Welsh MAT students as part of the school’s MAT Seren programme. Mwynhewch y gwylio! Enjoy the viewing!
Gweledigaeth Adran y Gymraeg
Welsh Department Vision
Dyfal Donc a Dyr y Garreg
Sicrhau amrediad llawn o brofiadau a chyfleoedd dysgu i ddefnyddio’r iaith Gymraeg o fewn a thu hwnt i’r dosbarth.
Ensuring a full range of learning experiences and opportunities to use the Welsh language within and beyond the classroom.
CA3 / KS3
Ein Cwricwlwm / Our Curriculum
Defnyddio’r Gymraeg i gyfathrebu, deall a chysylltu gyda’n Cynefin.
Using Welsh to communicate, understand and connect with our Cynefin.
Blwyddyn 7 / Year 7
Erbyn diwedd Blwyddyn 7 byddi di’n gallu trafod a mynegi barn ar agweddau ar fywyd dydd i ddydd. Byddi di’n gallu gwrando ar eraill ac ymateb yn briodol. Byddi di’n gallu darllen ac ymateb i wybodaeth am yr ysgol a hamdden ac ysgrifennu adroddiad byr. Byddi di’n llefaru cerdd am barti yn ein Eisteddfod Ysgol.
By the end of Year 7 you will be able to discuss and express an opinion on aspects of daily life. You will be able to listen to others and respond appropriately. You will be able to read and respond to information about school and leisure and write a short report. You will recite a poem on the topic of ‘Party’ in our Eisteddfod Ysgol.
Blwyddyn 8 / Year 8
Erbyn diwedd Blwyddyn 8 byddi di’n gallu rhoi, gwrando ar ac ymateb i gyngor a chyfarwyddiadau. Byddi di’n gallu rhoi cyflwyniad byr i gynulleidfa, gwrando ar ac ymateb yn feirniadol i gyflwyniadau eraill. Byddi di’n gallu darllen ac ymateb i wybodaeth o fwy nag un ffynhonnell. Byddi dI’n gallu ysgrifennu portread byr, llythyr yn mynegi barn ac erthygl fer. Byddi di’n llefaru cerdd am anifeiliaid od Wrecsam yn ein Eisteddfod ysgol.
By the end of Year 8 you will be able to give, listen and respond to advice and instructions. You will be able to give a short presentation to an audience, listen and respond critically to the presentations of others. You will be able to read and respond to information from more than one source. You will be able to write a short portrayal, a letter expressing opinion and a short article. You will recite a poem about the strange animals of Wrecsam in our Eisteddfod Ysgol.
Blwyddyn 9 / Year 9
Erbyn diwedd Blwyddyn 9 byddi di’n gallu chwarae rôl cwsmer neu asiant i drefnu gwyliau. Byddi di’n gwrando ac ymateb yn briodol o fewn dy rôl. Byddi di’n gallu cynnal trafodaeth ar y cyfryngau. Byddi di’n gallu darllen ac ymateb i gerddi a chymharu gwybodaeth o fwy nag un testun. Byddi di’n gallu ysgrifennu dyddiadur gwyliau ac adolygiad o ffilm. Byddi di’n llefaru cerdd am Wrecsam yn ein Eisteddfod ysgol.
By the end of Year 9 you will be able to play the role of customer or agent to arrange a holiday. You will be able to listen and respond appropriately within your role. You will be able to maintain a discussion on the media. You will be able to read and respond to poetry and compare information from more than one text. You will be able to write a holiday diary and film review. You will recite a poem about Wrecsam in our Eisteddfod Ysgol.
CA4 / KS4
TGAU Cymraeg Ail-Iaith / Welsh Second Language GCSE
Mae pob disgybl yn astudio TGAU Cymraeg Ail-Iaith yn Ysgol Rhosnesni i fanteisio ar y fraint o fod yn ddwyieithog. Dwy iaith, dwywaith y dewis o ran byd gwaith a byd cymdeithasol.
Ffaith:
Mae Llywodraeth Cymru yn sefydlu gweithlu dwyieithog. Mae gan unigolion ȃ chymhwyster TGAU Cymraeg Ail-Iaith fantais sylweddol dros unigolion heb gymhwyster.
All students study Welsh Full Course GCSE at Ysgol Rhosnesni to enable each child to secure a bilingual future; two languages lead to a broader range of choices within all areas of your child’s future.
Fact:
The Welsh Government is establishing a bilingual workforce in Wales. Individuals holding a Welsh Full Course GCSE qualification have a significant advantage over individuals without a qualification.
Byddi di’n astudio’r themau canlynol o fewn i 4 uned asesu: You will study the following topics within 4 assessment units: Cyflogaeth – Employment Cymru a’r Byd – Wales And The World Ieuenctid – Youth
Uned / Unit 1:Arholiad Llafaredd / Oracy Examination
Uned / Unit 2:Arholiad Llafaredd / Oracy Examination
Uned / Unit 3:Arholiad Darllen ac Ysgrifennu / Reading and Writing Examination
Uned / Unit 4: Arholiad Ysgrifennu Estynedig a Darllen / Extended Writing and Reading Examination